Mae’r BBC newydd lansio gwefan o’r enw Doomsday Reloded. Dyma ddisgrifiad o’r wefan:
Yn 1986, 900 o flynyddoedd ar ôl Domesday Book gwreiddiol William y Concwerwr , cyhoeddodd y BBC Prosiect Domesday. Mae’n debyg mai’r prosiectd yma oedd ye ymgais mwyaf uchelgeisiol erioed i ddal hanfod bywyd yn y Deyrnas Gyfunol. Cyfrannodd dros filiwn o bobl at y ciplun digidol o’r wlad.
Gofynnwyd i bobl i gofnodi’r hyn y credent y byddai o ddiddordeb mewn 1000 o flynyddoedd.
Rhannwyd y DG – gan gynnwys Ynysoedd y Sianel ac Ynys Manaw – yn 23,000 ardal a elwir yn Sgwariau Domesday 4x3km neu “D-Blocks”.
…
Nawr, 25 mlynedd yn ddiweddarach yn ein oes o’r we fyd-eang, ffotograffiaeth ddigidol, e-byst a rhwydweithio cymdeithasol, mae’n bryd i ni gael golwg ar rhai o’r cofnodion eto, er mwyn dod â’r prosiect yn gyfoes, ac efallai i osod i lawr haen arall o hanes lleol .
Gellir gweld Sgwariau Domesday Caerdydd yma (Rhaid yna dewis Cardiff, Cardiff, United Kingdom). Cliciwch ar bob sgwâr i weld rhestr o gofnodion a lluniau.
Yn un o’r sgwariau, ceir cofnod o’r enw Bilingual Education, sy’n son am addysg Gymraeg yn y ddinas ar y pryd. Dyma ran ohono:
The Welsh nursey school Ystum Taf, one of 30 in Cardiff, has 29 pupils compared with 8 when opened in 1972.
This school feeds Melin Gruffydd school, one of 4 Welsh primary schools which is now 6 yrs old. They have grown from 60 to 220 pupils during this period. In both schools only approximately 30% of the pupils come from Welsh speaking homes.
All pupils go to Glantaf comprehensive. This, the only Welsh secondary school in S. Glamorgan…
Mae hefyd yn cyfeirio ar y ffaith bod 30% o’r disgyblion yn dod o aelwydydd Cymraeg. Heddiw, mae 15 ysgol cynradd cyfrwng Cymraeg ac un dwyieithog, ac mae dwy ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg a trydydd un ar fin cael ei hadeiladu. Hoffai’r BBC i bobl ddiweddaru pob cofnod i adlewyrchu’r sefyllfaoedd heddiw. felly os oes rhywun mas yna sydd a gwell wybodaeth na fi o’r ystadegau presennol am addysg Gymraeg yn y brifddinas, ewch ati.
O diddordeb efallai, ac sy’n berthnasol i’r erthygl hon, yw erthygl yn The Cardiffian (blog lleol gan fyfyrwyr newyddiaduraeth y Brifysgol) sy’n son am y galw mawr mewn llefydd meithrin yn Nhrelluest.
Un o’r pethau anffodus gyda’r Domesday ar lein yw nad yw’r teithiau rhithwir arno fe. Roedden nhw yn debyg iawn i Google Streetview ac roedd hi’n bosib ‘teithio’ o gwmpas ardal a wedyn neidio ffwrdd i wybodaeth penodol ynglyn a’r lleoliad. Mi fase rheiny yn ddiddorol iawn i’w cymharu gyda heddiw. Mae gen i fideo o fi a fy ffrind yn defnyddio’r peiriant Domesday o tua 1988!
Lot o stwff da heb ei gynnwys felly, dyna biti.
Mae gen i fideo o fi a fy ffrind yn defnyddio’r peiriant Domesday o tua 1988!
Os ydy o ar YouTube gyda ti, baswn i’n licio ei ychwanegu at y cofnod yma.
Hysbysiad: Ein Caerdydd a blogiau lleol newydd ledled Cymru | Quixotic Quisling | Carl Morris
Hysbysiad: Hacio’r Iaith Bach Digymell yn CITY ARMS, Caerdydd. HENO 8PM. | Hacio'r Iaith