Ein Caerdydd

Blog lleol ar gyfer prifddinasyddion lleol

Adolygiad: Cardiff Illustration Graduate Show 2011

Dw i newydd deulio amser cinio pleserus yn crwydro o gwpmas labrynth o hen swyddfeydd ar lawr cyntaf y Morgan Arcade Chambers. Ro’n i eisoes wedi bod yma i weld arddangosfa  gan projet/ten, ac mae’n werth dod i grwydro’n adeilad ei hun, ond ro’n i wedi dod i weld arddangosfa graddedigion 2011 ar gwrs celf BA (hons) Illustration UWIC.

Dyma’r digrifiad ar dudalen Facebook y digwyddiad:

Cardiff School of Art and Design BA Illustration class of 2011 present our Final Degree Show.

Due to a non-limiting theme, without a house style, CSAD degree show highlights the range of new talent via a variety of media.

I fi, amrywiaeth y themau a’r gwahanol gyfryngau sy’n gwneud yr arddangofa mor ddidorol. Yr unig thema cyson trwy bopeth oedd hiwmor. Beth sy’n wych y bod pob un myfyriwr yn cadw blog personol i arddangos eu gwaith, ac mae dolen i bob un ar broffeil unigol pawb ar y wefan.  Mwynheuais i’r gwaith i gyd, ond fy hoff rai i oedd gêm gyfrifiadur gan Ché Wilbraham, darluniau ffantastig Ben Hillman.
Sylwais i ddim ar waith Rhys Aneurin yno, fo sy’n gyrfiol am bosteri nosweithau Nyth,.Dw i newydd ddod ar draws darluniau o eiconau pop Cymraeg ar ei gyfrif Tumblr.

Mae’r arddongofa ymlaen nes y 25ain o Fehefin (ar gau ar dydd Iau).

Mae hefyd lot o stwff da ar dudalen y cwrs ar wefan UWIC.

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Information

Wedin ei gofndoi ar 21 Mehefin 2011 gan yn adolygiad, Canol y ddinas gyda'r tag , , .

Rho dy gyfeiriad e-bost er mwyn tanysgrifio i'r blog hwn a chael gwybod am gofnodion newydd drwy e-bost.

Trwydded

Creative Commons License
Mae'r cynnwys gwreiddiol ar Ein Caerdydd wedi ei drwyddedu o dan Creative Commons Attribution-NonCommercial 3.0 Unported License. (Gweler nodiadau ar gofnodion unigol am unrhyw eithriadau, e.e. lluniau gan bobol eraill.)
Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn