Ein Caerdydd

Blog lleol ar gyfer prifddinasyddion lleol

Y llyfr Bloody Valentine a’r ochr dywyll i Fae Caerdydd

John Williams - Bloody Valentine

Mae’r llyfr Bloody Valentine yn gallu newid dy olwg o Gaerdydd. Ar ôl i mi ei ddarllen yn ddiweddar, dw i wedi bod yn edrych ar Gaerdydd mewn ffordd wahanol. Dylwn i fod wedi ei ddarllen blynyddoedd yn ôl.

Dw i byth eisiau ei ddarllen eto.

Ar un lefel, dyma lyfr am lofruddiaeth dreisgar Lynette White yn 1988 ar Ddydd San Ffolant a’r camweinyddiad cyfiawnder pan aeth tri dyn diniwed i’r carchar. Mae Williams, fel newyddiadurwr, yn dilyn yr ymgyrch i ryddhau’r Tri Caerdydd a’r digwyddiadau hyd at 1993 pan orffenodd e’r llyfr.

Ond hefyd mae stori ehangach.

Mae gyda John Williams diddordeb personol yn Nhre-Biwt ers ei anturiaethau yn y sin gigs a chlybiau yna pan oedd e’n ifancach (gyda llaw, mae’i llyfr newydd am yrfa gynnar Shirley Bassey newydd gael ei gyhoeddi). Yn y llyfr hwn mae e’n dechrau gan baentio llun anhygoel o ardaloedd unigryw Tre-Biwt a’r hen Tiger Bay, ac yn esbonio genedigaeth y gymuned yn y 19eg ganrif a 20fed ganrif gynnar:

[...] from this point on Butetown was not simply a conventional ghetto or a colourful adjunct to the city’s maritime life, but effectively an island. It was not simply a black island: the area had always had a white Welsh population and continued to do so, there was an Irish presence too as well as Chinese, Arab and European sailors, and refugees from successive European conflicts as well. And as the black or coloured population was initially almost exclusively male, Butetown rapidly became a predominantly mixed-race community, almost unique in Britain, the New Orleans of the Taff delta, home of the creole Celts. But this integration was firmly confined to Tiger Bay: above the Bute bridge you were back in the same hidebound old Britain. [...]

Mae’r darn ‘above the Bute bridge’ yn cyfeirio at y bont gyferbyn a’r pyb Golden Cross a John Lewis. Roedd tai ar Sgwâr Callaghan yn y gorffennol, cyn iddi hi gael ei osod yn 1999.

Mae’r cyd-destun ehangach felly yn cynnwys yr ochr dywyll i gynlluniau Bae Caerdydd. Un elfen i’r achos oedd agwedd negyddol gan yr heddlu tuag at drigolion Tiger Bay a phobol croenddu. Roedd pwysau ar yr heddlu i frysio ac i orffen yr achos cyn gynted â phosib, yn hytrach nag ystyried yr achos gan bwyll. Roedd y diffyg canlyniad i’r archwiliad llofruddiaeth yn gyhoeddusrwydd drwg i’r byd tu allan i Tiger Bay ac yn atal y ‘breuddwydion’ o’r bae newydd.

Mae’r llyfr yn bwerus ac yn berthnasol i faterion cyfoes. Fel mae’n digwydd, mae’r stori wedi bod yn parhau dros yr haf eleni gydag achos llys yn erbyn aelodau o’r heddlu. Ddoe roedd Stephen Miller, un o’r Tri Caerdydd, yn y llys – fel tyst yn hytrach na diffynnydd y tro yma.

Gadael Ymateb

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Newid )

Connecting to %s

Rho dy gyfeiriad e-bost er mwyn tanysgrifio i'r blog hwn a chael gwybod am gofnodion newydd drwy e-bost.

Trwydded

Creative Commons License
Mae'r cynnwys gwreiddiol ar Ein Caerdydd wedi ei drwyddedu o dan Creative Commons Attribution-NonCommercial 3.0 Unported License. (Gweler nodiadau ar gofnodion unigol am unrhyw eithriadau, e.e. lluniau gan bobol eraill.)
Dilyn

Derbyn pob cofnod newydd yn syth i'ch Blwch Derbyn